EAB remit and procedures (Welsh version)
Cylch gwaith a gweithdrefnau
Y bwrdd apeliadau arholiadau
- Mae´r Bwrdd Apeliadau Arholiadau (yr EAB) yn bodoli i sicrhau, yn yr ychydig achosion lle na ellir datrys anghytundeb rhwng canolfannau neu ymgeiswyr preifat a´r cyrff dyfarnu, bod yna ddull hollol annibynnol o apelio ar gael er mwyn arolygu cywirdeb y trefniadau o ran gosod, marcio a graddio cymwysterau. Y mae´n helpu i roi hyder i ymgeiswyr, rhieni, ysgolion a cholegau sy´n defnyddio´r gyfundrefn arholiadau bod y graddau a ddyfarnwyd yn deg a chywir.
- Mae Bwrdd yr EAB yn cynnwys y Cadeirydd a dau Ddirprwy Gadeirydd.
- Bydd yr EAB yn gwrando ar apeliadau ar gyfer TGAU, TAG a Dyfarniadau Safon Uwch Estynedig.
- Gall canolfannau ac ymgeiswyr preifat apelio at yr EAB. Fel arfer yr unig geisiadau a ystyrir fydd rhai o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fe allai´r EAB dderbyn apêl o rywle arall, yn ôl doethineb y Cadeirydd, lle ceir goblygiadau ar gyfer yr un cymhwyster a gynigir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Bydd y Bwrdd yn gwrando ar apêl ar ôl i holl broses apelio y corff dyfarnu dan sylw gael ei chwblhau yn unig. Fel arfer, bydd hyn yn golygu cynnal ymchwiliad ynghylch y canlyniadau, ailfarcio neu ailsafoni, a gwrandawiad apêl ffurfiol gerbron panel apêl y corff dyfarnu ei hun.
- Bydd yr EAB yn ystyried, o ran dyfarnu graddau, a yw´r corff dyfarnu dan sylw wedi defnyddio gweithdrefnau sy´n gyson â chod ymarfer yr awdurdodau rheoleiddio, ac a yw wedi eu cymhwyso´n briodol a theg wrth lunio barn. Ymhlith y gweithdrefnau y gellir ymchwilio iddynt y mae´r ystod lawn o weithdrefnau sy´n gysylltiedig â dyfarnu graddau ac sy´n arwain at hynny: gosod papurau; marcio a chymedroli; dyfarnu´r radd; ymholiadau am ganlyniadau ac apeliadau, ystyriaeth arbennig, trefniadau mynediad a threfniadau gweinyddol. Nid oes a wnelo´r broses apeliadau â llunio barn am waith ymgeiswyr yn yr arholiadau gan mai cyfrifoldeb priodol uwch arholwr y corff dyfarnu dan sylw yw hynny.
- Nid oes hawl gan yr EAB i ailfarcio gwaith ymgeiswyr ac ni all newid graddau a roddwyd gan gorff dyfarnu chwaith. Mae ganddo bwerau i orchymyn i gorff dyfarnu ailystyried achos a gall gynnig argymhellion. Os na fydd y Bwrdd yn fodlon gydag ymateb bwrdd dyfarnu i´w orchymyn i ailystyried achos, fe fydd yn cyfeirio´r mater i sylw´r awdurdodau rheoleiddio priodol, gan roi´r rhesymau dros gyfeirio´r achos. Yr awdurdodau hyn yw´r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn Lloegr (QCA), Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) a Chyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon (CCEA). Yr EAB yw´r llwybr apêl terfynol ar gyfer canolfannau ac ymgeiswyr preifat ac felly mae ei benderfyniadau yn rhai terfynol.
Gwneud apêl
- Canolfannau arholi sy´n gorfod apelio at yr EAB, h.y. penaethiaid ysgolion a cholegau, ac nid ymgeiswyr unigol ac eithrio ymgeiswyr a gyflwynir yn breifat (fe allant hwy apelio´n uniongyrchol at y Bwrdd). Gall canolfannau sy´n ystyried apelio drafod y materion yn anffurfiol gyda Rheolwr Apeliadau´r EAB cyn cyflwyno cais ffurfiol.
- Rhaid cyflwyno cais ffurfiol i apelio i´r EAB o fewn tair wythnos i dderbyn yr adroddiad drafft sy´n amlinellu canlyniad apêl gerbron y corff dyfarnu.
- I wneud cais ffurfiol i apelio, dylai´r sawl sy´n apelio anfon ffurflen gais wedi´i llenwi, gan nodi seiliau´r apêl yn eglur.
- O fewn pythefnos i dderbyn cais, bydd y Cadeirydd yn penderfynu a yw´n
(i) dod dan gylch gwaith yr EAB; ac
(ii) yn teilyngu cael ei ystyried yn ffurfiol gan y Bwrdd
a rhoi gwybod i´r ymgeisydd am y penderfyniad. - Bydd darpariaeth ar gyfer ymdrin ag apeliadau gan ganolfannau yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg, lle bo galw am hynny, yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Gwrandawiadau
- Os bydd y Cadeirydd yn fodlon bod yr amodau a ddisgrifir ym mharagraff 12 wedi´u bodloni, fe drefnir gwrandawiad cyn gynted ag y bo modd. Bydd gwrandawiadau yn cael eu cynnal fel arfer o fewn deufis i dderbyn cais. Bydd y rhain ar agor i´r cyhoedd. Bydd yr awdurdodau rheoleiddio ac adrannau addysg perthnasol y llywodraeth yn cael gwahoddiad penodol i anfon arsyllwyr.
- Ar ôl derbyn cais, bydd y Bwrdd yn gofyn i´r ddwy ochr am yr holl ddogfennau sy´n nodi´r hyn a wnaed yn yr achos dan sylw ac unrhyw dystiolaeth bellach. Fe roddir 10 diwrnod iddynt ddarparu´r wybodaeth angenrheidiol a bydd y Bwrdd yn dosbarthu´r dogfennau perthnasol o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawiad. Ni fydd yr EAB yn gwrando apêl yn absenoldeb cynrychiolaeth bersonol y ddwy ochr mewn apêl. Bydd yn gofyn am enwau a statws a/neu ddiddordeb y cynrychiolwyr a´r tystion a fydd yn bresennol yn y gwrandawiad (fel arfer ni fydd mwy na thri ar bob ochr). Bydd y Bwrdd yn talu costau teithio a chynhaliaeth yn ôl cyfraddau y cytunir arnynt i hyd at dri chynrychiolydd/tyst ar ran y sawl sy´n apelio.
- Yn gwrando ar bob apêl fe fydd panel o dri, wedi´u dewis o blith aelodau´r Bwrdd a chronfa o banelwyr. Bydd yr holl banelwyr a ddewisir yn annibynnol ar y corff dyfarnu dan sylw ac ar y sawl sy´n apelio. Aelod o´r Bwrdd fydd yn cadeirio´r panel.
- Mewn gwrandawiad fe roddir ystyriaeth i´r dystiolaeth ysgrifenedig a ddosbarthwyd ymlaen llaw, gan gynnwys, lle bo´n briodol, tystiolaeth yn deillio o sgriptiau´r ymgeiswyr. Bydd y sawl sy´n apelio (sef pennaeth y ganolfan fel arfer) a chynrychiolydd y corff dyfarnu dan sylw yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno eu hachosion. Bydd y panel yn gofyn am wybodaeth ychwanegol neu eglurhad yn ôl yr angen gan y sawl sy´n apelio a´r corff dyfarnu a bydd yn archwilio´r holl dystiolaeth a gyflwynir cyn dod i gasgliadau. Mae´r cyfle i holi cynrychiolwyr y ddwy ochr yn rhan gynhenid o wrandawiad apêl yr EAB a dyma´r rheswm y mae´r EAB yn mynnu eu bod yn bresennol yn y cyfarfod.
Canlyniadau gwrandawiadau apelio
- Lle bernir bod sail dda i apêl a lle nad yw´r panel yn hyderus bod canlyniadau cyhoeddedig yr ymgeiswyr yn briodol, mae pwˆer gan yr EAB i orchymyn bod y corff dyfarnu yn ailystyried yr achos. Fel arall, bydd y panel yn cadarnhau penderfyniad gwreiddiol y corff dyfarnu. Bydd yr EAB yn gallu penodi arsyllwr anghyfrannog i arolygu´r ffordd y mae corff dyfarnu yn ailystyried achos. Lle bo´n briodol bydd yr EAB yn gallu cynnig argymhellion ehangach i gyrff dyfarnu neu awdurdodau rheoleiddio.
- Fe hysbysir y ddwy ochr o ganlyniad y gwrandawiad o fewn dau ddiwrnod gwaith i´r digwyddiad. Bydd yr EAB yn cyhoeddi ei gasgliadau a rhesymau sylfaenol o fewn 15 diwrnod gwaith i´r gwrandawiad.
- Anfonir copïau o´r llythyr penderfynu at y sawl sy´n apelio ac at y corff dyfarnu, yr awdurdodau rheoleiddio perthnasol ac adrannau addysg y llywodraeth.
- Petai´r EAB am i gorff dyfarnu ailystyried achos ac ailfarcio´r sgriptiau, fe fydd yn anfon copi o´r gweithdrefnau at y ddwy ochr mewn apêl, sef gweithdrefnau a gytunwyd rhwng yr EAB a´r Cyd-gyngor Cymwysterau, ar gyfer ailfarcio o´r fath. Bydd canlyniad unrhyw achos a ailystyrir yn cael ei gyhoeddi o fewn chwe wythnos i´r corff dyfarnu dderbyn hysbysiad gan yr EAB a bydd yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd â´r llythyr penderfynu.
- Bydd yr EAB yn cyflwyno datganiad i´r wasg ar bob achos wrth iddo ddod i ben, a bydd yn cyhoeddi adroddiad yn flynyddol.
Chwefror 2007
